Eleni, mae Ysgol Min y Ddol yn brysur yn parhau i weithredu a threialu strategaethau a dulliau newydd o'r Gwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r plant yn dod yn fwy ymwybodol o'i gynnwys a beth mae'r newidiadau yn ei olygu iddyn nhw. Rydych chi, ein rhieni a chymuned yr ysgol, wedi mewnbynnu trwy awgrymu beth mae'r pedwar diben yn ei olygu i chi a'ch plant a sut y gallwn ni i gyd sicrhau bod 'pawb yn llwyddo' yma yn Ysgol Min y Ddol. Rydym wedi datblygu ardaloedd dysgu yn yr awyr agored ar gyfer pob dosbarth a, beth bynnag fo'r tywydd, mae'r plant yn cyrchu'r awyr agored ac yn trosglwyddo eu dysgu a'u sgiliau i weithgareddau awyr agored cyffrous ac ymarferol. Mae ein hysgol wedi cael ei chydnabod am ei darpariaeth awyr agored ragorol ac rydym yn cael ein cadw'n brysur gyda llawer o ymwelwyr o wahanol ysgolion yn dymuno ennill cefnogaeth a syniadau ar sut y gallant wneud yr un peth. Rydym yn hapus i gefnogi a rhannu ein llwyddiannau os yw'n golygu bod llawer mwy o blant yn elwa.
Am fwy o wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru, dilynwch y ddolen isod:
https://youtu.be/NOOIqS-35ms
This year, Ysgol Min y Ddol are busy continuing to implement and trial new strategies and approaches to the new Curriculum for Wales. The children are becoming more aware of its content and what the changes mean for them. You, our parents and school community, have inputted by suggesting what the four core purposes mean to you and your children and how we can all ensure that 'everyone succeeds' here at Ysgol Min y Ddol. We have developed outdoor learning areas for all classes and, whatever the weather, the children access the outdoors and transfer their learning and skills into exciting and practical outdoor activities. Our school has been recognised for its outstanding outdoor provision and we are kept busy with many visitors from different schools wishing to gain support and ideas on how they to can do the same. We are happy to support and share our successes if it means many more children benefit.
For further information on the Curriculum for Wales, please follow the link below:
https://youtu.be/Am1wg46OsCE