Menu

Ysgol Min y Ddôl

Pawb yn Llwyddo

Croeso/Welcome

Ein Hysgol Ni/Our School

Siwrne ein disgyblion/Our pupil's journey

Mae siwrne plant Ysgol Min y Ddol yn dechrau gyda'n Mes Bach, sef ein dosbarth Meithrin. O'r Mes Bach, maent wedyn yn symud i Ddosbarth Gwdihw, sef dosbarth cymysg derbyn a blwyddyn 1. Dosbarth Wiwer yw'n dosbarth blwyddyn 1 a 2 ac yna maent yn symud ymlaen i flynyddoedd 3 a 4, sef Dosbarth Draenog. Dosbarth Derwen yw'r dosbarth olaf, ar frig yr ysgol, lle mae'r plant yn gorffen eu haddysg gyda ni. 

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau dosbarth. 

 

The children's journey in Ysgol Min y Ddol starts with our little acorns, our nursery class. From there, they move to our owl class which consists of our reception and year 1 pupils. Squirrel class is our year 1 and 2 and they move on from there to years 3 and 4, our hedgehog class. Our oak class, at the top of the school, is where they finish their education at Ysgol Min y Ddol.

 

For more information, please visit the class pages.  

Mae iechyd a lles ein disgyblion a'n staff yn allweddol i'r awyrgylch rhagorol sydd yma yn Ysgol Min y Ddol. Rydym yn ymfalchïo mewn sicrhau bod ein hamgylcheddau dysgu yn ddiogel, yn archwiliadol, yn drefnus, yn addas at y diben, yn addysgiadol, yn drefnus ac yn hwyl! Mae llais y disgyblion yn gryf yn yr ysgol a, lle bo hynny'n bosibl, mae ein disgyblion yn gwerthuso eu hamgylchedd, yn cynnig syniadau ar welliannau, yn trin cyllidebau bach ac yn archebu adnoddau ac offer newydd. Maent wedi defnyddio cyllidebau grant yn llwyddiannus, wedi rheoli arian trwy eu syniadau codi arian eu hunain ac wedi archebu'n ddoeth - hyd yn oed bargeinio am ostyngiadau ar adegau!


The health and wellbeing of our pupils and staff is key to the excellent atmosphere here in Ysgol Min y Ddol. We take great pride in ensuring our learning environments are safe, explorative, organised, fit for purpose, educational, well organised and fun! Pupil voice is strong at the school and, where possible, our pupils evaluate their surroundings, offer ideas on improvements, handle small budgets and order new resources and equipment. They have successfully used grant fundings, have raised money through their own fundraising ideas and have ordered wisely - even bargaining for discounts on occasion!

 

 

Gwybodaeth a chefnogaeth i'n teuluoedd a disgyblion newydd/Information and support for our new families and pupils

Top