Menu

Ysgol Min y Ddôl

Pawb yn Llwyddo

Croeso/Welcome

Croeso / Welcome

Neges gan y pennaeth/Message from the headteacher…

 

Mae'n bleser mawr gennyf eich cyfarch, fel pennaeth Ysgol Min y Ddôl. Croeso cynnes i wefan yr ysgol, a’r gobaith yw y bydd ei chynnwys yn ddefnyddiol i chi. Ysgol Gynradd benodedig Gymraeg yw Ysgol Min y Ddôl sydd wedi'i lleoli ym mhentref Cefn Mawr. Rydym yn croesawu plant o'r Feithrin hyd at Flwyddyn 6. O'r mes bach hynny ddaw ar y dechrau y mae coed derw cryf yn tyfu. Camau bach hanfodol pob un o'n disgyblion, o'r dechrau i'r diwedd, sydd wedi sicrhau bod Ysgol Min y Ddôl yn lwyddiant diymwad yw hi erbyn heddiw. Rydym yn falch iawn o'r gymuned hapus a chlos a grëwyd yma yn ein hysgol, lle mae pawb - disgyblion, staff ac ymwelwyr fel ei gilydd i gyd yn teimlo'n gyffyrddus yn yr amgylchedd groesawgar a grëir yma. Fel cymuned ysgol, rydym yn cydweithio'n barhaus i gyflawni ein gweledigaeth bod Ysgol Min y Ddôl yn ysgol gefnogol sy'n meithrin ac yn datblygu sgiliau pob plentyn i sicrhau eu bod yn dod yn unigolion galluog a hyderus sy'n dangos balchder a pharch yn eu cyflawniadau, eu hiaith a'u treftadaeth. Yn Ysgol Min y Ddôl mae pawb yn llwyddo.

 

It gives me great pleasure to greet you, as the headteacher of Ysgol Min y Ddôl. A warm welcome to the school’s website where it is hoped that you will find its content useful. Ysgol Min y Ddôl is a designated Welsh medium school situated in the village of Cefn Mawr. We welcome children from Nursery up to Year 6. It is from those little acorns at the beginning that strong oak trees grow. It is the celebrated small steps of each of our pupils, from start to finish, which has ensured that Ysgol Min y Ddôl is the undeniable success that it is today. We are very proud of the happy and close knit community created here at our school, where everyone - pupils, staff and visitors alike all feel comfortable in the welcoming environment created here. As a school community, we continually work together to achieve our shared vision: Ysgol Min y Ddôl is a supportive school which nurtures and develops the skills of each child to ensure they become able and confident individuals who show pride and respect in their achievements, their language and their heritage. In Ysgol Min y Ddôl everyone succeeds.

 

Mrs Claire Rayner
Pennaeth/Headteacher

 

Top